Y Cymro Jon Mould yn ennill ras Ystwyth CC yng nghymoedd mwyngloddio Ceredigion

Jon Mould o JLT Condor oedd gyntaf dros y llinell yn un o rasys lôn cynharaf y tymor, sef y Tour of the Mining Valleys, a gynhaliwyd gan Glwb Beicio Ystwyth yn Aberystwyth, Ceredigion ddydd Sul 5ed Mawrth 2017. Fe gadwodd y glaw draw am ran helaeth y ras, ond wedi cawodydd trymion yn gynnar y bore, a chyda gwynt oer yn dal i chwythu, roedd hi’n fore heriol ar y rhiwiau rhwng Aberystwyth, Pontrhydygroes a Phontarfynach.

Croesodd Mould y llinell cyn Issac Mundy o PMR@Toachim House yn yr ail safle, Edward Roberts o Team Elite yn drydydd, George Fox o Team Bottrill-HSS Hire yn bedwerydd, Daniel Bigham o Brother NRG Driverplan yn bumed a chyd-aelod o dîm JLT Condor, Ed Laverack, yn chweched, wedi i grŵp o seiclwyr dorri’n rhydd o’r peloton wrth iddynt gylchu’r cwrs am yr eildro.

Roedd y cwrs 75 milltir o hyd yn un caled, llawn rhiwiau serth, yn nodweddiadol o Geredigion. Ond mentrodd dros 60 o seiclwyr y ras drwy’r cymoedd mwyngloddio, gan ddringo’r rhiw i’r Gors deirgwaith cyn gorfod wynebu’r ddringfa filltir o hyd o Bontrhydygroes i Bontarfynach ar ddiwedd y ras. Mould enillodd y wobr am y ddringfa olaf honno, gydag Edward Roberts yn ennill y wobr am ddringo rhiw y Gors am yr eildro a Zach May o Metaltek Kuota am ei ddringo am y tro olaf.

Roedd enillydd y ras, Mould, eisoes wedi dod yn ail i gyd-aelod arall o’i dîm, JLT Condor, sef Ed Clancy, yn Ras Goffa Eddie Soens yn Aintree ddydd Sadwrn.

Braf iawn hefyd oedd gweld nifer o seiclwyr o’r categori iau yn dal eu tir gyda’r seiclwyr hŷn.

Mae albwm llawn o luniau’r ras, gan Adam Hughes, i’w gweld yma https://hugheses.smugmug.com/Adams-Photos/Tour-of-the-Mining-Valleys-2017/ Tynnwyd y lluniau isod o Jon Mould yn gwibio am y llinell ac yn dathlu ei fuddugoliaeth gan Kristian Bond.

Hoffai Clwb Beicio Ystwyth ddiolch i’r holl seiclwyr a thimau a ddaeth draw i’r gorllewin i rasio, yn ogystal ag i bawb a gynorthwyodd i gynnal y ras. Diolch hefyd i’r rhai ddaeth allan i gefnogi ar ochr y ffyrdd.